The Madonna of the Streets
Mary's Rosaries

Home Page

Contact Us

Make a Payment, Methods of Payment, Refund and Exchange Policies

Rosaries
subpages:

How to Pray the Rosary
subpages:

Pictures Main Page
subpages:

Curriculum
subpages:

Website Terms of Use

License Agreement

Sitemap


The Work of God's Children

 Welsh Rosary Prayers
This language is also called Cymraeg.  This language is spoken by 509,000 people in Wales in the United Kingdom.

See also The Work of God's Children page for the illustrated version of prayers in this language.

Sign of the Cross
Yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân
Amen.

Credo’r Apostolion / Apostles' Creed
Credaf yn Nuw Dad Holl-gyfoethog, Creawtdwr nef a daear :
    Ac yn Iesu Grist ei un Mab ef, ein Harglwydd ni; Yr hwn a gaed trwy yr Yspryd Glân, A aned o Fair Forwyn, A ddïoddefodd dan Pontius Pilatus, A groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd; A ddisgynodd i uffern; Y trydydd dydd y cyfododd o feirw; A esgynodd i’r nefoedd, Ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Dad Holl-gyfoethog; Oddi yno y daw i farnu byw a meirw.
    Credaf yn yr Yspryd Glân; Yr Eglwys Lân Gatholig; Cymmun y Saint; Maddeuant Pechodau; Adgyfodiad y cnawd, A’r Bywyd tragywyddol. Amen.

Another version of
Credo’r Apostolion / The Apostles' Creed
Credaf yn Nuw, y Tad hollalluog,
creadwr nefoedd a daear.

Credaf yn Iesu Grist, ei unig Fab, ein Harglwydd ni.
Fe’i cenhedlwyd trwy rym yr Ysbryd Glân
a’i eni o’r Wyryf Mair.
Dioddefodd dan Pontius Pilat,
fe’i croeshoeliwyd, bu farw, ac fe’i claddwyd.
Disgynnodd i blith y meirw.
Ar y trydydd dydd fe atgyfododd.
Fe esgynnodd i’r nefoedd,
ac y mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad.
Fe ddaw drachefn i farnu’r byw a’r meirw.

Credaf yn yr Ysbryd Glân,
yr Eglwys Lân Gatholig,
cymundeb y saint,
maddeuant pechodau,
atgyfodiad y corff
a’r bywyd tragwyddol. Amen

Ein Tad / Our Father / Pater Noster
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y ddeuwn ni i’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth ; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.

Another version of
Ein Tad / Our Father / Pater Noster
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deled dy deyrnas, gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.  Amen.

Another version of
Ein Tad / Our Father / Pater Noster
Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol,
a maddau inni ein troseddau,
fel yr ym ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
a phaid â'n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg.
Oherwydd eiddot ti yw'r deyrnas a'r gallu a'r gogoniant am byth. Amen.

Henffych well, Mair / Hail Mary / Ave Maria
Henffych well, Mair, llawn o ras; yr Arglwydd sydd gyd â thi;
bendigedig wyt ti ym mhlith merched, a bendigedig yw Ffrwyth
dy groth di Iesu.
Sanctaidd Fair, Mam Duw, gweddïa drosom
ni pechaduriaid yr awr hon, ac yn awr ein hangeu. Amen.

Gogoniant i'r Tad / Glory Be / Gloria Patri
Gogoniant i'r Tad ac i'r Mab ac i'r Ysbryd Glan megis yr oedd yn y dechrau y mae'r awr hon ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

Arglwydd Iesus / Oh, My Jesus / Fatima Prayer
Arglwydd Iesus, maddau inni ein pechodau,
achuba ni o danau yr Uffern
ac arweina ysbrydau i gyd i'r Nefoedd yn enwedig
y rheiny sydd eisiau dy drugaredd yn fwyaf.
Amen.

Credwn yn un Duw / The Nicene Creed
Credwn yn un Duw,
Y Tad hollalluog,
gwneuthurwr nef a daear,
a phob peth gweledig ac anweledig.

Credwn yn un Arglwydd Iesu Grist,
unig Fab Duw,
a genhedlwyd gan y Tad cyn yr holl oesoedd,
Duw o Dduw, Llewyrch o Lewyrch,
gwir Dduw o wir Dduw,
wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur,
yn un hanfod â'r Tad,
a thrwyddo ef y gwnaed pob peth:

yr hwn er ein mwyn ni ac er ein hiachawdwriaeth a ddisgynnodd o'r nefoedd,
ac a wnaed yn gnawd trwy'r Ysbryd Glân o Fair Forwyn,
ac a wnaethpwyd yn ddyn,
ac a groeshoeliwyd hefyd drosom dan Pontius Pilat.
Dioddefodd angau ac fe'i claddwyd.
Atgyfododd y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau,
ac esgynnodd i'r nef,
ac y mae'n eistedd ar ddeheulaw'r Tad.

A daw drachefn mewn gogoniant i farnu'r byw a'r meirw:
ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.
Credwn yn yr Ysbryd Glân,
yr Arglwydd, rhoddwr bywyd,
sy'n deillio o'r Tad a'r Mab,
yr hwn gyda'r Tad a'r Mab a gydaddolir ac a gydogoneddir,
ac a lefarodd trwy'r proffwydi.
Credwn yn un Eglwys lân gatholig ac apostolig.
Cydnabyddwn un Bedydd er maddeuant pechodau.
A disgwyliwn am atgyfodiad y meirw,
a bywyd y byd sydd i ddyfod. Amen.

Gogoniant yn y goruchaf i Dduw / Gloria in Excelsis
Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd i’r rhai sydd wrth ei fodd.
Moliannwn di, bendithiwn di,
addolwn di, gogoneddwn di,
diolchwn i ti am dy fawr ogoniant.
Arglwydd Dduw, Frenin nefol,
Dduw Dad Hollalluog.
O Arglwydd, yr Unig Fab, Iesu Grist;
O Arglwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad,
sy’n dwyn ymaith bechod y byd,
trugarha wrthym;
tydi sy’n eistedd ar ddeheulaw Duw Dad,
derbyn ein gweddi.
Oherwydd ti yn unig sy’n Sanctaidd;
ti yn unig yw’r Arglwydd;
ti yn unig, O Grist, gyda’r Ysbryd Glân,
sydd Oruchaf yng ngogoniant Duw Dad. Amen.

Sanctaidd / Sanctus
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Arglwydd,
Duw gallu a nerth,
Nef a daear sy’n llawn o’th ogoniant.
Hosanna yn y goruchaf.
Bendigedig yw’r hwn sy’n dod yn enw’r Arglwydd.
Hosanna yn y goruchaf.

Magnificat
Fy enaid a fawrhâ yr Arglwydd : a’m hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr.
    Canys efe a edrychodd : ar ostyngeiddrwydd ei wasanaethyddes.
    Oblegid wele, o hyn allan : yr holl genhedlaethau a ’m geilw yn wynfydedig.
    Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd : a sanctaidd yw ei Enw ef.
    A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd : ar y rhai a’i hofnant ef.
    Efe a ddangosodd nerth â’i fraich : efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriadau eu calonnau.
    Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfaau : ac a ddyrchafodd y rhai isel radd.
    Efe a lanwodd y rhai newynog â phethau da : ac a anfonodd ymaith y rhai goludog mewn eisiau.
    Efe a gynnorthwyodd ei was Israel, gan goflo ei drugaredd : fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

Cantate Domino
Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd : canys efe a wnaeth bethau rhyfedd â’i ddeheulaw, ac â’i fraich sanctaidd, y parodd iddo ei hun iachawdwriaeth.
    Hyspysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth : a datguddiodd ei gyfiawnder yngolwg y cenhedloedd.
    Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel : a holl derfynau’r ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni.
    Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear : llefwch, ac ymawenhêwch, a chenwch.
    Cenwch i’r Arglwydd gyd â’r delyn : sef gyd â’r delyn â llef canmoliaeth.
    Cenwch yn llafar o fiaen yr Arglwydd y Brenhin : ar yr udgyrn a sain cornet.
    Rhued y môr, ac y sydd ynddo : y byd, a’r rhai a drigant o’i fewn.
    Cured y llifeiriaint eu dwylaw, a chyd-ganed y mynyddoedd o flaen yr Arglwydd : canys efe a ddaeth i farnu’r ddaear.
    Efe a farna’r byd mewn cyfiawnder : a’r bobloedd mewn uniondeb.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.

Nunc Dimittis
Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd : yn ol dy air.
    Canys fy llygaid a welsant : dy iachawdwriaeth,
    Yr hon a barottoaist : ger bron wyneb yr holl bobl;
    I fod yn oleuni i oleuo’r Cenhedloedd : ac yn ogoniant i’th bobl Israel.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

Credo Sant Athanasius / The Athanasian Creed

Pwy bynnag a fynno fod yn gadwedig : o flaen dim rhaid iddo gynnal y Ffydd Gatholig.

Yr hon Ffydd, oni’s ceidw pob dyn yn gyfan ac yn ddihalog : diammeu y collir ef yn dragywydd.
A’r Ffydd Gatholig yw hon : Bod i ni addoli un Duw yn Drindod, a’r Drindod yn Undod.
Nid cymmysgu o honom y Personnau : na gwahanu ’r Sylwedd.

Canys un Person sydd i’r Tad, arall i’r Mab : ac arall i’r Yspryd Glân.
Eithr Duwdod y Tad, y Mab, Yspryd Glân, sydd unrhyw : Gogoniant gogyfuwch, Mawrhydi gogyd-tragywyddol.
Unrhyw yw ’r Tad, unrhyw yw ’r Mab: unrhyw yw ’r Yspryd Glân.
Digrëedig Dad, digrëedig Fab : digrëedig Yspryd Glân.
Anfesuredig Dad, anfesuredig Fab : anfesuredig Yspryd Glân.
Tragywyddol Dad, tragywyddol Fab : tragywyddol Yspryd Glân.

Ac etto nid ydynt dri thragywydolion : ond un tragywyddol.
Ac fel nad ynt dri anfesuredigion, na thri digrëedigion ond un digrëedig, ac un anfesuredig.
Felly yn gyffelyb, Holl-alluog yw ’r Tad, Holl-alluog yw ’r Mab : Holl-alluog yw ’r Yspryd Glân.
Ac etto nid ynt dri Holl-alluogion : ond un Holl-alluog.
Felly y Tad sy Dduw, y Mab sy Dduw : a’r Yspryd Glân sy Dduw.
Ac etto nid ynt dri Duwiau : ond un Duw.
Felly y Tad sydd Arglwytdd, y Mab sydd Arglwydd : a’r Yspryd Glân sydd Arglwydd;
Ac etto nid ynt dri Arglwyddi namyn un Arglwydd.
Canys fel y’n cymhellir trwy y Cristionogaidd wirionedd : i gyfaddef bod pob Person o hono ei hun yn Dduw ac yn Arglwydd;
Felly y’n gwaherddir trwy’r Gatholig Grefydd : i ddywedyd, hod tri Duwiau, neu dri Arglwyddi.
Y Tad ni wnaethpwyd gan neb : ni’s crëwyd, ac ni’s cenhedlwyd. 
Y Mab sydd o’r Tad yn unig : heb ei wneuthur, na’i grëu; eithr wedi ei genhedlu.
Yr Yspryd Glân sydd o’r Tad a’r Mab : heb ei wneuthur, na’i grëu, na’i genhedlu; eithr yn deilliaw.
Wrth hynny, un Tad y sydd, nid tri Thad; un Mab, nid tri Mab : un Yspryd Glân, nid tri o Ysprydion Glân.
Ac yn y Drindod hon, nid oes un cynt, neu gwedi eu gilydd : nid oes un mwy na llai nâ’u gilydd;
Eithr yr holl dri Phersonau ydynt ogyd-tragywyddol : a gogyfuwch.
Ac felly ym mhob peth, fel y dywedwyd uchod : yr Undod yn y Drindod, a’r Drindod yn yr Undod sydd i’w haddoli.
Pwy bynnag gan hynny a fynno fod yn gadwedig : synied felly o’r Drindod.
Y mae hefyd yn anghenraid, er mwyn tragywyddol iachawdwriaeth : gredu o ddyn yn ffyddlon am gnawdodiaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
Canys yr iawn ffydd yw, credu a chyffesu o honom: fod ein Harglwydd ni Iesu Grist, Fab Duw, yn Dduw ac yn Ddyn; 
Duw, o Sylwedd y Tad, wedi ei genhedlu cyn yr oesoedd : a Dyn, o Sylwedd ei fam, wedi ei eni yn y byd;
Perffaith Dduw, a pherffaith Ddyn : o enaid rhesymmol, a dynol gnawd yn hanfod; 
Gogyfuwch a’r Tad, oblegid ei Dduwdod : a llai nâ’r Tad, oblegid ei Ddyndod.
Yr hwn er ei fod yn Dduw ac yn Ddyn : er hynny nid yw efe ddau, ond un Crist. 
Un; nid trwy ymchwelyd y Duwdod yn gnawd : ond gan gymmeryd y Dyndod at Dduw; 
Un i gyd oll; nid gan gymmysgu ’r Sylwedd : ond drwy undod Person.
Canys fel y mae yr enaid rhesymmol a’r cnawd yn un dyn : felly Duw a Dyn sydd un Crist:
Yr hwn a ddïoddefodd er ein hiachawdwriaeth : a ddisgynodd i uffern, a gyfododd y trydydd dydd o feirw. 
Esgynodd i’r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw ’r Tad, Duw Holl-alluog : oddi yno y daw i farnu byw a meirw. 
Ac ar ei ddyfodiad y cyfyd pob dyn yn eu cyrph eu hunain : ac a roddant gyfrif arn eu gweithredoedd prïod. 
A’r rhai a wnaethant dda, a ant i’r bywyd tragywyddol : a’r rhai a wnaethant ddrwg, i’r tân tragywyddol.
Hon yw y Ffydd Gatholig: yr hon pwy bynnag a’r ni’s cretto yn ffyddlon, ni all efe fod yn gadwedig.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.





Creative Commons License
The contents of this webpage are licensed under a Creative Commons Attribution 3.0 License.
Valid HTML 4.01 Transitional
(this is the bottom of page)