Home
Page
Contact
Us
Make a Payment,
Methods of
Payment, Refund and Exchange Policies
Rosaries
subpages:
How to Pray the
Rosary
subpages:
Pictures
Main Page
subpages:
Curriculum
subpages:
Website
Terms of Use
License
Agreement
Sitemap
The Work of God's Children
|
Cymraeg
Rosary Prayers
This language is also called Welsh. This
language is spoken by
509,000 people in Wales in the United
Kingdom.
See also The
Work
of God's Children page for the illustrated version of prayers
in this language.
LLaswyr
Sign
of the Cross
Yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân
Amen.
Credo’r
Apostolion / Apostles' Creed
Credaf yn Nuw Dad
Holl-gyfoethog, Creawtdwr nef a daear :
Ac yn Iesu Grist ei un Mab ef, ein Harglwydd ni; Yr
hwn a gaed trwy yr Yspryd Glân, A aned o Fair Forwyn, A
ddïoddefodd dan Pontius Pilatus, A groeshoeliwyd, a fu farw, ac a
gladdwyd; A ddisgynodd i uffern; Y trydydd dydd y cyfododd o feirw; A
esgynodd i’r nefoedd, Ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Dad
Holl-gyfoethog; Oddi yno y daw i farnu byw a meirw.
Credaf yn yr Yspryd Glân; Yr Eglwys Lân
Gatholig; Cymmun y Saint; Maddeuant Pechodau; Adgyfodiad y cnawd, A’r
Bywyd tragywyddol. Amen.
Another version of
Credo’r
Apostolion
/
The Apostles' Creed
Credaf yn Nuw, y Tad hollalluog,
creadwr nefoedd a daear.
Credaf yn Iesu Grist, ei unig Fab, ein
Harglwydd ni.
Fe’i cenhedlwyd trwy rym yr Ysbryd Glân
a’i eni o’r Wyryf Mair.
Dioddefodd dan Pontius Pilat,
fe’i croeshoeliwyd, bu farw, ac fe’i claddwyd.
Disgynnodd i blith y meirw.
Ar y trydydd dydd fe atgyfododd.
Fe esgynnodd i’r nefoedd,
ac y mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad.
Fe ddaw drachefn i farnu’r byw a’r meirw.
Credaf yn yr Ysbryd Glân,
yr Eglwys Lân Gatholig,
cymundeb y saint,
maddeuant pechodau,
atgyfodiad y corff
a’r bywyd tragwyddol. Amen
Ein Tad / Our Father
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy
deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd.
Dyro
i
ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y
ddeuwn ni i’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth ; Eithr
gwared ni rhag drwg. Amen.
Another version of
Ein Tad / Our Father
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deled dy
deyrnas, gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y
ddaear hefyd. Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein
dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr. Ac nac arwain ni i
brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
Doxology
Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r
gogoniant, yn oes
oesoedd.
Another version of
Ein Tad / Our Father
Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol,
a maddau inni ein troseddau,
fel yr ym ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
a phaid â'n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg.
Amen.
Doxology
Oherwydd eiddot ti yw'r deyrnas a'r
gallu a'r gogoniant am byth.
Henffych
well, Mair / Hail
Mary
Henffych well, Mair, llawn o ras; yr Arglwydd sydd gyd
â thi;
bendigedig wyt ti ym mhlith merched, a bendigedig yw
Ffrwyth
dy groth di Iesu.
Sanctaidd Fair, Mam Duw, gweddïa
drosom
ni pechaduriaid yr awr hon, ac yn awr ein hangeu. Amen.
Gogoniant
i'r
Tad
/ Glory
Be
Gogoniant i'r Tad ac i'r Mab ac i'r Ysbryd Glan megis
yr oedd yn y dechrau y mae'r awr hon ac y bydd yn wastad yn oes
oesoedd. Amen.
Arglwydd
Iesus
/
Oh,
My
Jesus / Fatima Prayer
Arglwydd Iesus, maddau inni ein pechodau,
achuba ni o danau yr Uffern
ac arweina ysbrydau i gyd i'r Nefoedd yn enwedig
y rheiny sydd eisiau dy drugaredd yn fwyaf.
Amen.
The
Nicene
Creed
Credwn yn un Duw,
Y Tad hollalluog,
gwneuthurwr nef a daear,
a phob peth gweledig ac anweledig.
Credwn yn un Arglwydd Iesu Grist,
unig Fab Duw,
a genhedlwyd gan y Tad cyn yr holl oesoedd,
Duw o Dduw, Llewyrch o Lewyrch,
gwir Dduw o wir Dduw,
wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur,
yn un hanfod â'r Tad,
a thrwyddo ef y gwnaed pob peth:
yr hwn er ein mwyn ni ac er ein hiachawdwriaeth a ddisgynnodd o'r
nefoedd,
ac a wnaed yn gnawd trwy'r Ysbryd Glân o Fair Forwyn,
ac a wnaethpwyd yn ddyn,
ac a groeshoeliwyd hefyd drosom dan Pontius Pilat.
Dioddefodd angau ac fe'i claddwyd.
Atgyfododd y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau,
ac esgynnodd i'r nef,
ac y mae'n eistedd ar ddeheulaw'r Tad.
A daw drachefn mewn gogoniant i farnu'r byw a'r meirw:
ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.
Credwn yn yr Ysbryd Glân,
yr Arglwydd, rhoddwr bywyd,
sy'n deillio o'r Tad a'r Mab,
yr hwn gyda'r Tad a'r Mab a gydaddolir ac a gydogoneddir,
ac a lefarodd trwy'r proffwydi.
Credwn yn un Eglwys lân gatholig ac apostolig.
Cydnabyddwn un Bedydd er maddeuant pechodau.
A disgwyliwn am atgyfodiad y meirw,
a bywyd y byd sydd i ddyfod. Amen.
Gogoniant
yn
y
goruchaf
i Dduw / Gloria
in Excelsis
Gogoniant
yn
y goruchaf i Dduw,
ac
ar y ddaear tangnefedd i’r rhai sydd wrth ei fodd.
Moliannwn
di, bendithiwn di,
addolwn
di, gogoneddwn di,
diolchwn
i ti am dy fawr ogoniant.
Arglwydd
Dduw, Frenin nefol,
Dduw
Dad Hollalluog.
O
Arglwydd, yr Unig Fab, Iesu Grist;
O
Arglwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad,
sy’n
dwyn ymaith bechod y byd,
trugarha
wrthym;
tydi
sy’n eistedd ar ddeheulaw Duw Dad,
derbyn
ein gweddi.
Oherwydd
ti yn
unig sy’n Sanctaidd;
ti
yn
unig yw’r Arglwydd;
ti
yn
unig, O Grist, gyda’r Ysbryd Glân,
sydd
Oruchaf yng ngogoniant Duw Dad. Amen.
Sanctaidd
/ Sanctus
Sanctaidd,
sanctaidd, sanctaidd Arglwydd,
Duw
gallu a nerth,
Nef
a daear sy’n llawn o’th ogoniant.
Hosanna
yn
y goruchaf.
Bendigedig
yw’r hwn sy’n dod yn
enw’r Arglwydd.
Hosanna
yn
y goruchaf.
Magnificat
Fy enaid a fawrhâ yr
Arglwydd : a’m hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr.
Canys efe a edrychodd : ar ostyngeiddrwydd ei
wasanaethyddes.
Oblegid wele, o hyn allan : yr holl genhedlaethau a
’m geilw yn wynfydedig.
Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd : a
sanctaidd yw ei Enw ef.
A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd : ar y rhai a’i
hofnant ef.
Efe a ddangosodd nerth â’i fraich : efe a
wasgarodd y rhai beilchion ym mwriadau eu calonnau.
Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfaau : ac
a ddyrchafodd y rhai isel radd.
Efe a lanwodd y rhai newynog â phethau da : ac
a anfonodd ymaith y rhai goludog mewn eisiau.
Efe a gynnorthwyodd ei was Israel, gan goflo ei
drugaredd : fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn
dragywydd.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd
Glân;
Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y
bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
Cantate
Domino
Cenwch i’r Arglwydd ganiad
newydd : canys efe a wnaeth bethau rhyfedd â’i ddeheulaw, ac
â’i fraich sanctaidd, y parodd iddo ei hun iachawdwriaeth.
Hyspysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth : a
datguddiodd ei gyfiawnder yngolwg y cenhedloedd.
Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel : a
holl derfynau’r ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni.
Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear :
llefwch, ac ymawenhêwch, a chenwch.
Cenwch i’r Arglwydd gyd â’r delyn : sef gyd
â’r delyn â llef canmoliaeth.
Cenwch yn llafar o fiaen yr Arglwydd y Brenhin : ar
yr udgyrn a sain cornet.
Rhued y môr, ac y sydd ynddo : y byd, a’r rhai
a drigant o’i fewn.
Cured y llifeiriaint eu dwylaw, a chyd-ganed y
mynyddoedd o flaen yr Arglwydd : canys efe a ddaeth i farnu’r ddaear.
Efe a farna’r byd mewn cyfiawnder : a’r bobloedd
mewn uniondeb.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd
Glân;
Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y
bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.
Nunc
Dimittis
Yr awr hon, Arglwydd, y
gollyngi dy was mewn tangnefedd : yn ol dy air.
Canys fy llygaid a welsant : dy iachawdwriaeth,
Yr hon a barottoaist : ger bron wyneb yr holl bobl;
I fod yn oleuni i oleuo’r Cenhedloedd : ac yn
ogoniant i’th bobl Israel.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd
Glân;
Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y
bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
Credo
Sant
Athanasius
/ The Athanasian Creed
Pwy
bynnag a fynno fod yn gadwedig : o flaen dim rhaid iddo gynnal y
Ffydd Gatholig.
Yr
hon Ffydd, oni’s ceidw pob dyn yn gyfan ac yn ddihalog : diammeu y
collir ef yn dragywydd.
A’r Ffydd Gatholig yw hon : Bod i ni
addoli un Duw yn Drindod, a’r Drindod yn Undod.
Nid cymmysgu o
honom y Personnau : na gwahanu ’r Sylwedd.
Canys
un Person sydd i’r Tad, arall i’r Mab : ac arall i’r Yspryd
Glân.
Eithr Duwdod y Tad, y Mab, Yspryd Glân, sydd
unrhyw : Gogoniant gogyfuwch, Mawrhydi gogyd-tragywyddol.
Unrhyw
yw ’r Tad, unrhyw yw ’r Mab: unrhyw yw ’r Yspryd
Glân.
Digrëedig Dad, digrëedig Fab : digrëedig
Yspryd Glân.
Anfesuredig Dad, anfesuredig Fab : anfesuredig
Yspryd Glân.
Tragywyddol Dad, tragywyddol Fab : tragywyddol
Yspryd Glân.
Ac
etto nid ydynt dri thragywydolion : ond un tragywyddol.
Ac fel nad
ynt dri anfesuredigion, na thri digrëedigion ond un
digrëedig,
ac un anfesuredig.
Felly yn gyffelyb, Holl-alluog yw ’r Tad,
Holl-alluog yw ’r Mab : Holl-alluog yw ’r Yspryd Glân.
Ac
etto nid ynt dri Holl-alluogion : ond un Holl-alluog.
Felly y Tad
sy Dduw, y Mab sy Dduw : a’r Yspryd Glân sy Dduw.
Ac etto
nid ynt dri Duwiau : ond un Duw.
Felly y Tad sydd Arglwytdd, y Mab
sydd Arglwydd : a’r Yspryd Glân sydd Arglwydd;
Ac etto nid
ynt dri Arglwyddi namyn un Arglwydd.
Canys fel y’n cymhellir
trwy y Cristionogaidd wirionedd : i gyfaddef bod pob Person o hono ei
hun yn Dduw ac yn Arglwydd;
Felly y’n gwaherddir trwy’r
Gatholig Grefydd : i ddywedyd, hod tri Duwiau, neu dri Arglwyddi.
Y
Tad ni wnaethpwyd gan neb : ni’s crëwyd, ac ni’s
cenhedlwyd.
Y Mab sydd o’r Tad yn unig : heb ei wneuthur,
na’i grëu; eithr wedi ei genhedlu.
Yr Yspryd Glân
sydd o’r Tad a’r Mab : heb ei wneuthur, na’i grëu, na’i
genhedlu; eithr yn deilliaw.
Wrth hynny, un Tad y sydd, nid tri
Thad; un Mab, nid tri Mab : un Yspryd Glân, nid tri o Ysprydion
Glân.
Ac yn y Drindod hon, nid oes un cynt, neu gwedi eu
gilydd : nid oes un mwy na llai nâ’u gilydd;
Eithr yr holl
dri Phersonau ydynt ogyd-tragywyddol : a gogyfuwch.
Ac felly ym
mhob peth, fel y dywedwyd uchod : yr Undod yn y Drindod, a’r
Drindod yn yr Undod sydd i’w haddoli.
Pwy bynnag gan hynny a
fynno fod yn gadwedig : synied felly o’r Drindod.
Y mae hefyd yn
anghenraid, er mwyn tragywyddol iachawdwriaeth : gredu o ddyn yn
ffyddlon am gnawdodiaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
Canys yr iawn
ffydd yw, credu a chyffesu o honom: fod ein Harglwydd ni Iesu Grist,
Fab Duw, yn Dduw ac yn Ddyn;
Duw, o Sylwedd y Tad, wedi ei
genhedlu cyn yr oesoedd : a Dyn, o Sylwedd ei fam, wedi ei eni yn y
byd;
Perffaith Dduw, a pherffaith Ddyn : o enaid rhesymmol, a
dynol gnawd yn hanfod;
Gogyfuwch a’r Tad, oblegid ei
Dduwdod : a llai nâ’r Tad, oblegid ei Ddyndod.
Yr hwn er
ei fod yn Dduw ac yn Ddyn : er hynny nid yw efe ddau, ond un
Crist.
Un; nid trwy ymchwelyd y Duwdod yn gnawd : ond gan
gymmeryd y Dyndod at Dduw;
Un i gyd oll; nid gan gymmysgu ’r
Sylwedd : ond drwy undod Person.
Canys fel y mae yr enaid
rhesymmol a’r cnawd yn un dyn : felly Duw a Dyn sydd un Crist:
Yr
hwn a ddïoddefodd er ein hiachawdwriaeth : a ddisgynodd i
uffern, a gyfododd y trydydd dydd o feirw.
Esgynodd i’r
nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw ’r Tad, Duw Holl-alluog :
oddi yno y daw i farnu byw a meirw.
Ac ar ei ddyfodiad y
cyfyd pob dyn yn eu cyrph eu hunain : ac a roddant gyfrif arn eu
gweithredoedd prïod.
A’r rhai a wnaethant dda, a ant
i’r bywyd tragywyddol : a’r rhai a wnaethant ddrwg, i’r tân
tragywyddol.
Hon yw y Ffydd Gatholig: yr hon pwy bynnag a’r ni’s
cretto yn ffyddlon, ni all efe fod yn gadwedig.
Gogoniant i’r
Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
Megis yr oedd yn y
dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd.
Amen.
|